Rhif y ddeiseb: P-06-1388

Teitl y ddeiseb: Dileu’r gofyniad i ffermwyr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed i allu manteisio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd

Geiriad y ddeiseb: Mae Llywodraeth Cymru yn dylunio cynllun newydd i gefnogi ffermwyr, sef y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Y Cam Gweithredu Cyffredinol mwyaf dadleuol sy’n rhaid ei gymryd i ymuno â’r cynllun hwn yw’r gofyniad i ffermwr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed, heb gynnwys perthi, yn ogystal â 10 y cant o gynefin. Am amryw resymau, ni all llawer o ffermwyr blannu coed ar 10 y cant o'u tir. Dylid gostwng canran y gorchudd coed sy’n ofynnol i allu manteisio ar y cynllun i lefel gyraeddadwy er mwyn caniatáu i gynifer o ffermwyr â phosibl ymuno ag ef.

 

Rhagor o fanylion

Bydd lleihau arwynebedd y tir ffermio cynhyrchiol yn golygu bod llai o fwyd yn cael ei gynhyrchu.  Bydd hyn yn effeithio ar bob diwydiant sy'n gwasanaethu'r sector amaethyddol.

Bydd lefel isel o ddefnydd o'r cynllun yn niweidiol i economi wledig Cymru.  Bydd llawer o ffermwyr sy'n cael taliadau gan Gynllun y Taliad Safonol ar hyn o bryd, ond sydd ddim yn gymwys i gael taliadau gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ei chael yn anodd goroesi.

Gellid cynnwys y lefelau uwch o orchudd coed yn y Camau Gweithredu Dewisol.

 

 


1.        Y cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi amaethyddol newydd – y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) arfaethedig. Ers i’r DU ymadael â’r UE, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal system gymorth Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr UE yng Nghymru. Fodd bynnag, rhagwelir y caiff yr SFS ei gyflwyno o 2025 ymlaen, gyda'r system PAC yn dirwyn i ben yn raddol.

Mae'r cynigion yn yr SFS yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd (tan 7 Mawrth). O dan y cynigion, byddai ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am gamau gweithredu uwchlaw’r gofynion cyfreithiol sylfaenol, gyda chymorth i ffermwyr o ran canlyniadau amgylcheddol, lles anifeiliaid a chanlyniadau cymdeithasol.

Byddai'n ofynnol i bob ffermwr sy'n cymryd rhan yn yr SFS (fel y’i cynigir) gyflawni cyfres o 'Weithredodd Cyffredinol' er mwyn cael 'Taliad Sylfaenol Cyffredinol' ar eu cyfer. Yna, yn seiliedig ar hynny, byddai gweithredoedd 'Opsiynol' a 'Chydweithredol' yn fodd iddynt gael eu gwobrwyo ymhellach.

Mae'r cynlluniau presennol yn dilyn sawl ymgynghoriad (yn fwyaf diweddar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy drafft yn 2022) a phrosiect cydlunio lle mae ffermwyr wedi cyfrannu at ddyluniad y cynllun.

Sylwer: cafodd y ddeiseb hon ei chyflwyno cyn y cynigion diweddaraf y manylir arnynt isod.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ystod y broses o ddatblygu’r SFS, un asgwrn cynnen oedd y Gweithredoedd Cyffredinol arfaethedig i ffermwyr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed ar eu ffermydd, ac i’r gorchudd coed hwnnw gael ei reoli yn unol â Safon Coedwigaeth y DU. Byddai coed a choetiroedd presennol yn cael eu cyfrif tuag at y lleiafswm gofynnol hwn.

Cynigiwyd y gofyniad hwn yn ymgynghoriad 2022 (tudalen 38) fel ffordd o weithio tuag at y targed i greu 43,000ha o goetiroedd newydd erbyn 2030 i helpu i liniaru newid hinsawdd. Roedd y gofyniad hwn o 10 y cant o orchudd coed ochr yn ochr â Gweithred Gyffredinol arall i ffermwyr reoli o leiaf 10 y cant o’u tir i gynnal a gwella cynefinoedd lled-naturiol.

Roedd gan ffermwyr bryder na fyddai’r Weithred Gyffredinol hon yn ymarferol, ac y byddai felly’n atal cymryd rhan yn yr SFS. Gwnaeth grwpiau amgylcheddol groesawu'r gofyniad, ond pwysleisiwyd yr egwyddor o gael 'y goeden gywir yn y lle cywir' i sicrhau'r manteision amgylcheddol.

Dyma rai o’r dadleuon yn erbyn y gofyniad o gael 10 y cant o orchudd coed:

§    bydd yn anodd i rai ffermwyr i’w gyflawni os nad yw eu tir yn addas ar gyfer plannu coed e.e. ffermydd ucheldir a ffermydd arfordirol;

§    efallai na fydd modd i ffermwyr tir comin a ffermwyr tenant ei gyflawni oherwydd cyfyngiadau yn eu contractau;

§    byddai'n stopio cynhyrchu ar y tir, gyda phryderon cysylltiedig ynghylch hyfywedd busnes a sicrwydd bwyd;

§    gallai coed a blennir mewn mannau anghywir - e.e. ar fawndir - gael effaith andwyol ar yr amgylchedd; a

§    gallai diffyg planhigfeydd lleol ar gyfer coed brodorol i ddarparu glasbrennau beri risg o afiechydon yn lledaenu pe bai angen mewnforio coed.

Dyma rai o'r manteision a nodwyd:

§    lleiniau cysgod;

§    llochesau i anifeiliaid;

§    bioddiogelwch (pellter rhwng ffermydd cyfagos);

§    amddiffyn ansawdd dŵr a lleiniau clustogi;

§    gwella bioamrywiaeth; a

§    lliniaru newid hinsawdd.

Gellir darllen mwy yn y Dadansoddiad o adborth i gynigion amlinellol y cynllun a'r adroddiad ar gydlunio.

Yn dilyn pryderon y rhanddeiliaid, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn edrych ar newidiadau, felly nid 10 y cant o’r daliad cyfan fyddai’r gofyniad ar gyfer gorchudd coed, ond 10 y cant o'r arwynebedd sy'n weddill ar ôl nodi’r mannau anaddas.

Diweddarwyd y cynigion a chyhoeddwyd yr ymgynghoriad terfynol ar yr SFS ar 14 Rhagfyr 2023. Mae’r Weithred Gyffredinol ynghylch gorchudd o goed wedi cael ei diwygio (tudalen 42 o’r ymgynghoriad) ers 2022:

Rydym wedi addasu'r gofyn hwn am 10% o orchudd coed er mwyn tawelu'r pryderon a godwyd gennych am blannu ar dir nad yw'n bosib plannu coed arno. Er enghraifft:

•  Efallai na fydd rhai tenantiaid yn cael plannu coed newydd na rheoli'r coetir sydd ganddyn nhw oherwydd y cytundeb tenantiaeth. 

• Nid yw'n bosib plannu coed ar nodweddion parhaol fel ffyrdd, iardiau, arwynebau caled, pyllau dŵr. 

• Ni fyddai'n briodol plannu coed mewn cynefnoedd â blaenoriaeth neu o ansawdd uchel fel mawnogydd.

Felly, ni fyddwn yn ystyried arwynebedd cyfan y fferm wrth gyfri'r gofyn am 10% o orchudd coed. Byddwn ond yn defnyddio'r arwynebedd sy'n weddill ar ôl tynnu'r darnau na ellir plannu arnynt

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys cyfeiriad at faterion sensitif eraill a fydd yn cael eu hystyried fesul fferm i benderfynu a yw ardal yn addas ar gyfer plannu. Mae'n ystyried y ffordd orau o ymdrin ag uchelfannau agored neu fannau arfordirol.

Mae NFU Cymru yn parhau i bryderu bod y rheol yn y cynllun ynghylch cael gorchudd coed o 10 y cant yn debygol o fod yn rhwystr i fynediad i lawer o fusnesau.

Yn ei phapur ar y ddeiseb hon, noddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd:

Yn wahanol i'r Cynllun Taliad Sylfaenol presennol, bydd coed a choetiroedd yn cael eu cynnwys yn yr arwynebedd tir sy'n cynhyrchu taliadau i ffermwyr, felly rwy'n gobeithio y gall ffermwyr unwaith eto ddysgu i werthfawrogi'r manteision lluosog a ddarperir gan goed.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae'r gofyniad ynghylch gorchudd coed o 10 y cant wedi cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur, gyda chwestiynau gan sawl Aelod. Er enghraifft, gallwch ddarllen y trafodaethau ac ymatebion y Gweinidog yn y trawsgrifiad o 11 Gorffennaf 2023.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.